Cofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod

Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) ddwy brif ddyletswydd fel y nodir yn ei Warant Frenhinol: llunio rhestr o'r adeiladau, y safleoedd archaeolegol, y tirweddau a’r dreftadaeth forol sy'n ffurfio amgylchedd hanesyddol Cymru; a chynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) a sicrhau ei fod ar gael i ddefnyddwyr.

Heddiw, mae'r dasg o lunio’r rhestr yn canolbwyntio'n bennaf ar wneud cofnod o adeiladau a safleoedd arwyddocaol yng Nghymru, ar y tir ac yn nyfroedd arfordirol Cymru, sydd mewn perygl o gael eu colli oherwydd ailddatblygu neu newid hinsawdd – yn fwyaf diweddar, mannau addoli, ysgolion a sefydliadau addysgol, adeiladau dinesig, llyfrgelloedd, neuaddau tref a llysoedd barn, theatrau a chanolfannau hamdden a threftadaeth arfordirol a morol sydd dan fygythiad oherwydd effeithiau cyrydu ac erydu newid hinsawdd.

Mae CBHC yn ymgynghorai statudol ym mhroses rheoli datblygu Cymru, sy'n golygu bod llywodraethau cenedlaethol a lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi cyngor ar geisiadau am ganiatâd adeiladau rhestredig lle mae hyn yn cynnwys dymchwel adeiladau rhestredig yn rhannol neu'n gyfan gwbl, a chyflwyno sylwadau ar brosiectau seilwaith cenedlaethol, gan gynnwys ceisiadau am drwyddedau morol.

Mae CHCC, ynghyd ag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn un o dri chasgliad cenedlaethol Cymru. Mae'n lleoliad statudol ar gyfer cyflwyno o dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 ac yn Archif Achrededig, yn ddarostyngedig i safonau cadwraeth a mynediad cyhoeddus sy’n cael eu pennu a’u monitro gan yr Archifau Cenedlaethol. Mae CHCC yn adnodd a ddefnyddir yn helaeth gan swyddogion llywodraeth leol a chenedlaethol, yn enwedig fel rhan o’r system gynllunio.

Rydym yn cyfnewid data gyda deiliaid cofnodion eraill ac yn darparu mynegai i ddata o ffynonellau eraill. Rydym yn chwarae rhan allweddol wrth sefydlu a chynnal safonau cenedlaethol mewn arolygu, cofnodi a churadu cofnodion sy'n ymwneud ag archaeoleg a phensaernïaeth hanesyddol a rhoi canllawiau ar y materion hyn i gyrff eraill. Rydym yn gyfrifol am oruchwylio'r Cofnodion Safleoedd a Henebion statudol a reolir gan Heneb. Yn ogystal, rydym yn llunio'r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol statudol ar ran Llywodraeth Cymru ac yn hyrwyddo ei defnydd ar gyfer enwi datblygiadau newydd yng Nghymru.

Mae'r amrywiol fyrddau a phaneli cynghori yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol yr ydym yn aelodau ohonynt yn gofyn am ein harbenigedd, gan gynnwys Fforwm Treftadaeth yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, Fforwm Digidol 4Culture, Rhwydwaith Archaeoleg Ddiwydiannol y DU, Fforwm Mannau Addoli Hanesyddol Cymru, y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, y Grŵp Amgylchedd Adeiledig Hanesyddol, Grŵp Treftadaeth Cymru, y Panel Archifau Pensaernïol, Menter Treftadaeth Leol Cymru, Grŵp Llywio Fframwaith Ymchwil Archaeolegol Cymru, Grŵp Rheoli Casgliad y Werin Cymru, a Grŵp Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Yn ogystal, rydym yn ymgymryd â rhaglen helaeth o waith allgymorth ac ymgysylltu cymunedol, sy'n cynnwys prosiectau sylweddol (fel ein gwaith Treftadaeth Asiaidd Cymru a'n prosiect bryngaer Pendinas), yn ogystal â darlithoedd, teithiau tywys, cyhoeddiadau a symposia (fel ein cynhadledd mapiau hanesyddol flynyddol, CartoCymru, a gynhelir yn flynyddol gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a ffrwd reolaidd o flogiau, postiadau ar gyfryngau cymdeithasol ac adroddiadau cynnydd.

Wrth fodloni'r gofynion a nodir yn y Warant Frenhinol, rydym hefyd yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Cymraeg 2050.

Roeddem hefyd yn rhan weithredol o ddatblygu'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant. Mae'r ddogfen ddrafft hon, yr ymgynghorwyd â ni yn ei chylch yn ystod y cyfnod hwn, yn nodi tair blaenoriaeth:

1.         Mae diwylliant yn dod â ni at ein gilydd

2.         Cenedl o ddiwylliant

3.         Mae diwylliant yn wydn ac yn gynaliadwy

Byddwn yn ymgorffori'r ddogfen hon yn ein hadroddiadau yn y dyfodol drwy ddangos sut mae ein gwaith yn cefnogi'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau terfynol.

 

Uchafbwyntiau'r flwyddyn

Yn ystod 2024-25, cwblhaodd staff y Comisiwn Brenhinol y canlynol:

      Ymweld â 54 o safleoedd arfordirol neu rynglanwol i wirio eu cyflwr a chreu cofnodion llinell sylfaen digidol 3D ar gyfer 40 ohonynt

      Diweddaru'r cofnodion ar gyfer 56 o longddrylliadau rhynglanwol yn dilyn ymweliadau safle, gyda 33 o safleoedd yn elwa o arolygon digidol 3D bellach

      Ychwanegu 157 o safleoedd llongddrylliadau at y CHCC

      Ymateb i 70 o ymgynghoriadau trwyddedau morol ffurfiol a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru

      Creu modelau SketchFab newydd, gan ddod â'r cyfanswm sydd ar gael ar dudalen CBHC i bron i 200

      Ymgymryd â 24 awr a 45 munud o waith arolygu o'r awyr i gofnodi tystiolaeth o safleoedd archaeolegol claddedig a chynnal arolygon cyflwr mewn rhannau anodd eu cyrraedd o Gymru

      Nodi gwersyll gorymdeithio Rhufeinig newydd 19.7 hectar ar Fryn Gardiners, yng ngogledd orllewin ardal hyfforddi filwrol Pontsenni ym Mhowys, gyda hyn yn dystiolaeth o ddefnydd milwrol o'r ardal ryw 2,000 o flynyddoedd yn ôl

      Cynnal casgliad llawn o gofnodi, gan gynnwys sganio laser, ffotogrametreg a ffotograffiaeth, yng Nghapel Newydd, yn Nanhoron a Chapel Jeriwsalem, Bethesda, y ddau yng Ngwynedd.

      Chwarae rhan yn y gwaith o restru tri adeilad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn llwyddiannus – Canolfan y Celfyddydau (Gradd II*), Llyfrgell Hugh Owen (Gradd II) a'r Clochdy (Gradd II) a Waterworld yn Wrecsam (Gradd II)

      Creu 17,790 o gofnodion catalog archif newydd a gwneud 18,112 o gofnodion archif digidol ar gael yn uniongyrchol i'r cyhoedd drwy Coflein

      Digideiddio 33,182 o dudalennau ffeiliau safle yn CHCC i greu ffeiliau o ansawdd uchel sydd bellach ar gael i ddefnyddwyr Coflein

      Cofnodi 4,256,777 o ryngweithiadau defnyddwyr ar Coflein

      Ychwanegu 869 o gofnodion safle newydd at CHCC a diweddaru 4,632 o gofnodion

      Ychwanegu bron i 4,000 o enwau lleoedd hanesyddol at y Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol

      Ateb 2,538 o ymholiadau, gan arwain at fwy na 6,692 o drafodion ac at adalw ac edrych ar fwy na 1,502 o archifau copi caled 

      Croesawu pedwar ar ddeg o ymweliadau grŵp i'n Llyfrgell a'n Hystafell Chwilio, cyfanswm o fwy na 300 o ymwelwyr

      Sganio 7,598 o dudalennau o ffeiliau cofrestredig yn ymwneud â Henebion Rhestredig diolch i waith caled saith gwirfoddolwr

      Cyfanswm o 385 o oriau o wirfoddoli gan 10 gwirfoddolwr Llyfrgell

      Ymgysylltu â mwy na 3,000 o drigolion lleol o bob oed fel rhan o brosiect Bryngaer Pendinas

      Cyhoeddi Darganfod Bryngaer Pendinas / Discovering Pendinas Hillfort a dosbarthwyd copïau i ysgolion lleol; wedi'i lawrlwytho 313 o weithiau yn ystod 2024-25, profodd hwn i fod yn gyhoeddiad mwyaf poblogaidd CBHC eleni

      Cwblhau gwerthusiad annibynnol gan yr ymgynghorwyr Wavehill a ddisgrifiodd brosiect Pendinas fel un 'rhagorol'; cafodd y prosiect Ganmoliaeth Uchel hefyd yng Ngwobrau Cyflawniad Archaeolegol Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA) 2024 yn y categori Ymgysylltu a Chyfranogiad

      Cynnal arddangosfa yn y Senedd i nodi diwedd Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru, gan ddenu 6,440 o ymwelwyr – record ar gyfer unrhyw arddangosfa yn y Senedd; cafwyd cydnabyddiaeth gyhoeddus i'r prosiect ar ffurf gwobr i arweinydd y prosiect Perminder Dhillon, a dderbyniodd Wobr Cydraddoldeb a Chynhwysiant gan Gyngor Hil Cymru

      Dosbarthu 2,504 o gyhoeddiadau ar ffurf 892 o eLyfrau a 1,612 o gyfrolau wedi'u hargraffu

      Derbyn dwy wobr fawr gan Gymdeithas Hanesyddol y Rheilffyrdd a'r Camlesi am ein cyhoeddiad yn 2023, Camlas Abertawe a'i Rheilffyrdd Cynnar: Llyfr Hanes Trafnidiaeth y Flwyddyn a Llyfr Camlesi a Dyfrffyrdd y Flwyddyn

      Cyrraedd mwy nag 844,000 o ddefnyddwyr drwy Facebook, ein prif sianel allgymorth, ac fe wnaeth ein sianel YouTube dderbyn mwy na 20,000 o ymweliadau, gan gynhyrchu mwy na 1,000 o oriau o amser gwylio

      Cyflwyno rhaglen eang o 92 o ddigwyddiadau cyhoeddus, gan gyrraedd cyfanswm o 11,791 o fynychwyr.

 

Defnydd o staff

Mae CBHC yn dîm bychan ond hynod gynhyrchiol ac mae nifer o staff yn ymgymryd â sawl rôl. Mae ein staff presennol yn cynnwys 20.5 o staff cyfwerth ag amser llawn sy'n ymgymryd â gwaith craidd CBHC.

      Mae chwech yn gweithio ym maes arolygu a chofnodi maes, gan gynnwys arbenigwyr mewn ffotograffiaeth o'r awyr, treftadaeth forol a geomateg, gyda phob un ohonynt yr unig berson yn sector treftadaeth Cymru sy'n darparu'r gwasanaethau hyn. Mae'r tîm hwn hefyd yn arwain y sector mewn addasu i newid hinsawdd, cofnodi cadwraeth Safleoedd Treftadaeth y Byd a gweithgarwch cadwraeth a chyflawni rôl CBHC fel ymgynghorai statudol o fewn y drefn gynllunio, gan ddarparu cyngor ar Ganiatâd Adeiladau Rhestredig, ceisiadau cyfadran eglwysig a thrwyddedau morol.

      Mae pedwar yn ymwneud â gwaith allgymorth, gan gwmpasu ein system gyflawni ddigidol Coflein ar gyfer mynediad at ddaliadau CHCC (y gellir lawrlwytho nifer cynyddol ohonynt bellach ar sail hunanwasanaeth) yn ogystal â bod yn gyfrifol am bennu safonau cadw cofnodion y sector a monitro gwaith yr HERs, ond hefyd am drefnu ein digwyddiadau, darlithoedd, postiadau cyfryngau cymdeithasol, gwaith addysgol, ein cyfraniad at Gasgliad y Werin Cymru, a'n cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg.

      Mae dwy swydd lawn amser ac un swydd ran amser yn ymwneud â rheoli'r Archif, catalogio cofnodion sy’n cael eu cyflwyno i CHCC, digideiddio daliadau'r Archif a'u gwneud ar gael, ac ar gyfer cadwraeth ddigidol.

      Mae dau yn rhedeg y gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau prysur iawn, gan ateb ymholiadau dros y ffôn, ar-lein, ar e-bost ac wyneb yn wyneb, a gweinyddu trwyddedau hawlfraint ac atgynhyrchu delweddau, rheoli gwirfoddolwyr a chynnal y nifer o grwpiau sy'n dod am daith gyflwyniadol o amgylch casgliadau CHCC.

      Mae'r Ysgrifennydd yn arwain yr uwch dîm rheoli ac mae dwy swydd yn ategu gwaith CBHC drwy ddarparu'r seilwaith TGCh a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau Seibrddiogelwch. Mae un swydd lawn amser ac un swydd ran amser yn darparu gwasanaethau rheoli ariannol, cyflogres, pensiwn a chaffael a thaliadau anfonebau, yn ogystal â rheoli cyfleusterau a chydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol. Mae un swydd yn gyfrifol am ein gwaith ymchwil, codi arian a cheisiadau am gyllid allanol, yn ogystal ag am ddatblygu Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol CBHC.

      Mae un swydd yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru i lunio a hyrwyddo'r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

 

Adroddiad ariannol

Yn ystod y flwyddyn 2024-25, bu gostyngiad o 10.5 y cant yn ein cyllid refeniw craidd gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, ac yn dilyn ymgynghori ag undeb llafur Prospect, fe wnaethom benderfynu lansio rhaglen o ddiswyddo gwirfoddol a arweiniodd at bum aelod o staff yn gadael y Comisiwn. Symudodd tri aelod arall o staff ymlaen i swyddi newydd mewn mannau eraill, a chafodd eu swyddi eu hatal dros dro, gan aros am adolygiad o'r berthynas rhwng CBHC a Cadw, gan gynnwys uno posibl (rhoddir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2025-26).

O ganlyniad, cytunodd sawl aelod o staff i ymgymryd â gwaith ychwanegol dros dro ac ailstrwythurwyd CBHC yn ddwy adran, gyda staff y tîm Llyfrgell, Ymholiadau ac Archif a'r tîm Arolygon ac Ymchwilio yn adrodd i Gareth Edwards, y Pennaeth Gwybodaeth a Dealltwriaeth, a'r tîm Busnes Corfforaethol a'r tîm Ar-lein ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn adrodd i'r Ysgrifennydd.

Cafodd yr arian a arbedwyd o atal y swyddi, ynghyd â chyllid y flwyddyn olaf o dan y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ei ategu gan swm Cyllid Lliniaru am flwyddyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu'r Comisiwn i addasu i ostyngiad mewn staffio. Gyda'i gilydd, galluogodd y cyllid hwn ni i gyflogi staff ar gontractau tymor byr i gefnogi'r tîm Llyfrgell ac Ymholiadau, i ymgymryd â gwaith ariannol a gweinyddol, i ymgymryd â gwella data Coflein ac i ymgymryd â digideiddio er mwyn sicrhau bod ein ffeiliau safle a ddefnyddir yn aml ar gael ar-lein ar sail hunanwasanaeth. Felly, roedd modd i ni gyflogi graddedigion diweddar o ardal Aberystwyth a rhoi cyfle gwerthfawr iddynt ennill profiad gwaith yn y sector treftadaeth ac archifau.

Wedi hynny, drwy grant cyllid cyfalaf wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gallu ymgymryd â'r gwaith digideiddio a chadwraeth ffotograffig o'r awyr y cyfeiriwyd ato'n gynharach yn yr adroddiad hwn (gweler 'Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru'). Yn ogystal, mae ein cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i fuddsoddi yn yr offer sganio laser newydd sy'n hanfodol ar gyfer gwaith cofnodi maes effeithlon a manwl gywir, ac i gadw ein hoffer TG yn gyfredol.

Rydym yn parhau i dderbyn grant arbennig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd statudol i ymchwilio a hyrwyddo'r defnydd o enwau lleoedd hanesyddol ac fe wnaethom lwyddo i sicrhau grant o gronfa Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru Llywodraeth Cymru ar gyfer ein prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru. Daeth symiau ychwanegol o'n cyfraniad at raglen Casgliad y Werin Cymru, ein cyfranogiad yn y gwaith Dyfroedd Di-lwybr a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i ddod â chofnodion treftadaeth forol pedair gwlad y DU at ei gilydd i safon gyffredin, ac o'n cyfran o grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect ymgysylltu cymunedol Pendinas. Hefyd cawsom grant bach ar gyfer ein celf ym mhrosiect MOWLIT (Mapio'r Orymdaith: Cymru a Lloegr Ganoloesol, tua 1282), a gyllidwyd gan gynllun Gwarant Horizon UKRI.

Bydd cyflogau’n ffurfio'r rhan fwyaf o'n gwariant bob amser, a dyma pam mae toriadau cyllid yn cael cymaint o effaith ar gapasiti ein staff. Mae’r costau rhedeg yn cynnwys costau sylweddol capasiti TGCh (gan gynnwys costau storio a chostau wrth gefn, trwyddedau meddalwedd, costau Seibrddiogelwch ac ymgynghoriaeth), y mae sefydliad sy'n drwm ar ddata’n ddibynnol arno ar gyfer ei waith.

 

Cyllid / Funding  £000

Cyllid net gan Lywodraeth Cymru / Core funding from Welsh Government

1,556

Cyllid Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru / Welsh Government Co-Operation Agreement Funding

100

Cyllid Lliniaru Llywodraeth Cymru / Welsh Government Mitigation Funding

147

Grantiau allanol / External grants:

Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru / Historic Place Names of Wales

60

Treftadaeth Asiaidd Cymru / Welsh Asian Heritage

139

Incwm Prosiect / Project Income:

Casgliad y Werin Cymru - People's Collection Wales

42

Dyfroedd Di-lwybr / Unpath'd Waters

6

Pendinas

47

MOWLIT

6

Incwm a enillwyd / Earned income

22

Cyllid Cyfalaf gan  Lywodraeth Cymru /Welsh Government capital funding:

110

Digideiddio Ffotograffiaeth o’r Awyr / Aerial Photography Digitisation

49

Cyfanswm / Total

2,284

Gwariant Fesul Prif Bennawd Cost / Expenditure by Major Cost Head £000

£000

Cyflogau - Salaries

1,551

Costau Rhedeg - Running Costs:

341

Darpariaeth Ddigidol - Digital Delivery

132

Teithio a Chynhaliaeth - Travel and Subsistence

37

Cyfalaf - Capital:

106

Digideiddio Ffotograffiaeth o’r Awyr / Aerial Photography Digitisation

49

Cyfanswm / Total

2,216

Incwm a Enillwyd / Earned Income £000

£000

Gwerthiant Llyfrau - Book Sales

8

Archrediad MEDIN - MEDIN Accrediation

5

Gwasanaethau CHCC - NMR Services

7

Breindaliadau - Royalties

2

Cyfanswm / Total

22